P-05-946 Achub adran Damweiniau ac Achosion Brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Geraint Williams, ar ôl casglu 13,342 o lofnodion ar-lein a 1,222 ar bapur, sef cyfanswm o 14,564 o lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:

​Mae pryderon difrifol y bydd adran Damweiniau ac Achosion Brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn cau, neu'n cau'n rhannol, cyn bo hir

 

Bydd hyn yn cael effaith sylweddol ar fynediad cleifion yn Rhondda Cynon Taf at adran Damweiniau ac Achosion Brys, a bydd hefyd yn rhoi pwysau ychwanegol ar adrannau Damweiniau ac Achosion Brys ym Merthyr Tudful, Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr.

 

Dylai Llywodraeth Cymru ymyrryd a gwneud popeth yn ei gallu i atal unrhyw ostyngiad yn y gwasanaeth o ran darpariaeth gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg a gwneud popeth yn ei gallu i hwyluso'r broses o recriwtio a phenodi Ymgynghorwyr Damweiniau ac Achosion Brys ar y bwrdd iechyd.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Merthyr Tudful a Rhymni

·         Dwyrain De Cymru